Diolch Sam…
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn mynd i fod yn wych!

Beth sy’n digwydd o gwmpas Cymru?

Dilynwch y ddolen isod at y rhestr o ddigwyddiadau sydd ar adran y bobl ifainc.

Bydd cannoedd o ddigwyddiadau a phrosiectau wedi’u trefnu i gefnogi Wythnos Gwaith Ieuenctid dros y misoedd nesaf ac, wrth iddyn nhw gael eu nodi, fe gānt eu rhestru’n awtomatig ar adran pobl ifainc ein safle. Wrth i fwy a mwy o ddigwyddiadau gael eu nodi, bydd y rhestrau’n mynd yn hirach ac yn hirach. Dyma pam yr ydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y ddolen hon at y rhestr ddigwyddiadau sydd yn yr adran bobl ifainc er mwyn cadw llygad ar y digwyddiadau newydd sy’n dod i’r amlwg.

Bydd cymaint o syniadau arloesol a chreadigol ar gyfer gweithgareddau fel eich bod yn siŵr o gael eich ysbrydoli. Gobeithio y bydd rhywbeth newydd ar y dudalen yn denu eich llygad a fyddai’n berffaith i chi ei addasu i siwtio eich grŵp neu’ch menter chi. Mae croeso i chi gysylltu ā’r trefnwyr i sgwrsio am eu prosiectau ac i ofyn am gyngor. Does dim yn well na dysgu gan eich gilydd.