Wel, nid yw Sam yn seren y byd pop, yn eicon chwaraeon nac ar y teledu ond mae Sam yn arbennig i nifer o bobl ifanc.
Oherwydd, fel Gweithiwr Ieuenctid, mae Sam yn rhoi cymorth a chyngor ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a phrofi pethau newydd. Mae Sam yn cynrychioli pob un ohonon ni sy’n ymwneud â Gwaith Ieuenctid.
Mae miloedd o ‘Sams’ allan yno, yn gweithio’n ddiflino dros bobl ifanc yng Nghymru. Ar y cyfrif diwethaf, roedd 20,000 ‘Sam’ yn ysbrydoli dros 200,000 o bobl ifanc yn y Gwasanaeth Ieuenctid. Ond rydym angen mwy! A dyna lle gallwch chi ein helpu i recriwtio ‘Sams’ y dyfodol drwy wneud y gorau o’n pecyn Gyrfâu Gwaith Ieuenctid newydd.
Y teitl yw ‘Allech chi fod y Sam nesaf?’ – gall Gweithwyr Ieuenctid ei ddefnyddio a’r rhai mewn proffesiynau cysylltiol i hyrwyddo gwaith ieuenctid fel opsiwn gyrfa i bobl ifanc.
Mae wedi’i ddylunio i’w ddefnyddio mewn lleoliad addysgol. Gall y pecyn fod yn offeryn hanfodol i ddal egni a brwdfrydedd pobl ifanc a gallai annog pobl ifanc i feddwl am gyfranogiad parhaus yn y Gwasanaeth Ieuenctid fel rhan bwysig o’u dyfodol.
Felly, gwnewch y gorau o’r adnodd gwerthfawr hwn a’n helpu i recriwtio ‘Sams’ y dyfodol!
Cynhyrchwyd y Pecyn Gyrfau Gwaith Ieuenctid ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Gyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS) a ProMo Cymru.




Rydym wedi ceisio creu dolenni sy'n berthnasol ac yn addas i ddefnyddwyr ein gwefan, ond ni allwn fod yn gyfrifol am gynnwys unrhyw un o'r safleoedd hyn.